Luke 8:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei a ’welsent, a vynegesant yddynt pa vodd yr iachesit, y cythraelic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd yr iachasid y cythreulig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mynegodd y rhai a’i gwelsai iddynt pa fodd yr iachawyd y cythreulig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai a welsant, a fynegasant iddynt pa fodd yr achubwyd y cythreulig.