Luke 8:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr oll lliaws y wlat o am gylch y Gadare n it a atolygesant iddaw, vynd ymaith y wrthynt: can ys delhit wy ac ofn mawr: ac ef aeth ir llong, ac a ddad ymchwelawð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Iddo y gofynodd yr holl liaws o gylch gwlad y Geraseniaid, i fyned ymaith oddi wrthynt, canys ag ofn mawr y daliwyd hwynt; ac Efe, wedi myned i mewn i’r cwch, a ddychwelodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynnodd holl liaws ardal y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr yn eu dirwasgu. Aeth yntau i long, a dychwelodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ar ôl hynny dyma bobl ardal Gerasa i gyd yn gofyn i Iesu adael, achos roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Felly aeth Iesu yn ôl i'r cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i'r cwch i ddychwelyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar holl luaws o'r wlad o amgylch y Geraseniaid a ofynasant iddo fyned ymaith oddiwrthynt: canys yr oedd ofn mawr wedi eu goddiweddyd. Ac efe ei hun a aeth i mewn i'r cwch, ac a ddychwelodd.