Luke 8:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymchwyl ith tuy dy hun, a’ datcan vaint bethae a wnaeth Duw yty. Yno ydd aeth ef ffwrdd, gan precethu trwy’r oll ddinas pa veint bethae a wnaethesei ’r Iesu iddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dychwel i’th dŷ, ac adrodda faint a wnaeth Duw i ti. Ac ymaith yr aeth efe, dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas, faint a wnaethai yr Iesu iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Dychwel adref, a datgan pa faint a wnaeth Duw erot.” Ac aeth ymaith dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas pa faint a wnaethai’r Iesu erddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o'r ddinas, faint a wnaethai'r Iesu iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti.” Felly i ffwrdd â'r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dychwel adref, ac adrodd gymaint y mae Duw wedi ei wneud drosot." Ac aeth ef ymaith trwy'r holl dref gan gyhoeddi gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dychwel i'th dŷ, a thraetha faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth ymaith, gan bregethu drwy yr holl Ddinas faint a wnaeth yr Iesu iddo.