Luke 8:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ darvu pan ddaeth yr Iesu drachefyn, bot ir bopul y dderbyn ef: can ys wy oll a ddysgwylynt am danaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth ddychwelyd o’r Iesu, derbyniodd y dyrfa Ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl am Dano.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar ddychweliad yr Iesu, croesawodd y bobl ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw'r llyn, roedd tyrfa yno i'w groesawu — roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd yr Iesu yn dychwelyd, y dyrfa a'i croesawasant ef: canys yr oeddynt oll yn ei ddysgwyl ef.