Luke 8:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha y daeth nebun gwr a ei enw Iairus, ac efe oeð yn llywodraethwr y Synagog, ac ef a gwympodd wrth draet yr Iesu, ac atolygawdd iddo ddyuot y mevvn yw duy ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, daeth gŵr a’i enw Iair; ac efe, llywodraethwr y sunagog ydoedd; ac wedi syrthio wrth draed yr Iesu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma ŵr yn dyfod, a’i enw Iairus, a hwn oedd bennaeth y synagog, a chan syrthio wrth draed Iesu erfyniai arno ddyfod i’w dŷ,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, daeth gŵr a'i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddyn o'r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu'n daer arno i fynd i'w dŷ.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele daeth gwr o'r enw Jairus, ac yr oedd efe ei hun yn Lywodraethwr y Synagog; a chan syrthio wrth draed yr Iesu, efe a atolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef: