Luke 8:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwreic rhon oedd arnei waedlif er ys dauddec blynedd, yr hon a dreuliesei i holl vywyt ar veddigon, ac ny ’s g allei gael i hiachau y gan neb un:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwraig yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar feddygon ei holl fywyd, ni allai gael gan neb ei hiachau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwraig ag arni ddiferlif gwaed ers deuddeng mlynedd, heb fedru cael meddyginiaeth gan neb,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeg mlynedd, yr hon a dreuliodd yn ychwanegol ei holl fywoliaeth ar feddygon, ac nis gallai gael ei hiachâu gan neb.