Luke 8:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
pan ddeuth hi y tu cefyn iddo, y cyvurðawð hi ac emyl yn y wisc ef, ac yn ebrwydd y safawdd llif y gwaet hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dyfod Atto o’r tu cefn, cyffyrddodd ag ymyl ei gochl, ac yn uniawn y safodd diferlif ei gwaed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a ddaeth ato o’r tu ôl a chyffwrdd â thasel ei fantell, ac ar unwaith safodd diferlif ei gwaed hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ddaeth o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth hon ato o'r tu l a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hi a ddaeth yn mlaen, o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd âg ymyl‐waith ei wisg ef: ac yn y fan y peidiodd diferlif ei gwaed hi.