Luke 8:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot yr Iesu, Pwy ’n yvv a gyffurddawdd a mi? Ac a phawp yn gwadu, y dyuot Petr, a’r ei oedd y gyd ac ef, Y llywiawdr y mae’r dorf yn dy wascu, ac ith sathru, a’ dywedy. Pwy ’n yvv a gyfyrðodd a mi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu, Pwy yw ’r hwn a gyffyrddodd â Mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y torfeydd a’th warchaeant ac a bwysant Arnat.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yr Iesu, “Pwy a gyffyrddodd â mi?” A phawb yn gwadu, dywedodd Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sydd yn cau amdanat ac yn dy ddirwasgu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a'r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae'r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu. Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Iesu, "Pwy gyffyrddodd mi?" Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, "Meistr, y tyrfaoedd sy'n pwyso ac yn gwasgu arnat."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd a mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, O Feistr, y mae y torfeydd yn cyfyngu arnat, ac yn dy wasgu.