Luke 8:46 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot, E gyfurddawð ryw vn a mi: can ys mi a wn vynet nerth allan o hanof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd, cyffwrdd â Mi a wnaeth rhyw un; canys Mi a ganfyddais allu yn myned allan o Honof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yr Iesu, “Cyffyrddodd rhywun â mi, canys mi wn i fod rhinwedd wedi mynd allan ohonof.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i'n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Iesu, "Fe gyffyrddodd rhywun mi, oherwydd fe synhwyrais i fod nerth wedi mynd allan ohonof."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd, Rhywun a gyffyrddodd, â mi: canys mi a wybyddais fod gallu wedi myned allan o honof.