Luke 8:47 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan welas y wreic nad oedd hi yn guddiedic, hi ddaeth dan ergrynu, ac a syrthiawdd geyr y vron ef, ac a vynegawdd iddaw rhac bron yr oll popul, er pa achaws y cyvwrðesei hi ac ef, ac val yr iachesit y hi yn ebrwyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r wraig nad oedd hi guddiedig, dan grynu y daeth, ac wedi syrthio ger Ei fron, mynegodd yngwydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag Ef, ac fel yr iachasid hi yn uniawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelodd y wraig nad oedd wedi osgoi sylw, a daeth dan grynu, ac wedi syrthio ger ei fron mynegodd yng ngŵydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag ef, a’r modd yr iachawyd hi ar unwaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi'n dod a syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a'i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd yn ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddodd hi âg ef, a'r modd yr iachâwyd hi yn y man.