Luke 8:49 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef eto yn ymadrodd, y daeth vn ywrth lywodraethwr y Synagog, gan ðywedyt wrthaw, Marw vu dy verch: na phoena ddim o’r Athro.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe etto yn llefaru, daeth un o dŷ yr arch-sunagogydd, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: na phoena yr Athraw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ef eto’n llefaru, daw un o dŷ’r pensynagogydd, a dywedyd, “Mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni’r Athro.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo'r Athro.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra oedd Iesu'n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni'r athro ddim mwy.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywun o du375? arweinydd y synagog a dweud, "Y mae dy ferch wedi marw; paid phoeni'r Athro bellach."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe eto yn llefaru, y mae rhywun yn dyfod o dŷ Llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw: na flina yr Athraw yn mhellach.