Luke 8:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glybu ’r Iesu, yr atepawdd iddaw, gan ddywedyt, Nag ofn a: cred yn vnic, a’ hi a iach ë ir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu wedi clywed hyn a attebodd iddo, Nac ofna; cred yn unig, ac iacheir hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr Iesu, pan glywodd, a’i hatebodd, “Paid ag ofni; yn unig cred, ac iacheir hi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu pan glybu hyn, a'i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn unig, a hi a iacheir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi'n cael ei hiacháu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, "Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu pan glybu a'i hatebodd ef, Nac ofna: cred yn unig, a hi a fydd iach.