Luke 8:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wylo oll ac irad a wnaēt am denei: ac ef a ddyuot, Na g wylwch: can na d marw hi, anyd hunaw y mae hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwylo yr oeddynt oll, a chwynfan am dani. Ac Efe a ddywedodd, Na wylwch, canys ni bu farw, eithr cysgu y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oeddent oll yn wylo ac yn galaru amdani. Dywedodd yntau, “Peidiwch ag wylo; canys ni bu hi farw, eithr cysgu y mae.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y lle'n llawn o bobl yn galaru ac udo crïo ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw — cysgu mae hi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, "Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oeddynt oll yn wylo, ac yn cwynfan am dani hi. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: canys ni fu farw, ond huno y mae.