Luke 8:54 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gwthiodd ef wy oll y maes, ac y cymerth hi erbyn hei llaw, ac a lefawdd, gan ddywedyt. Y vachcennes, cyvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, wedi ymaflyd yn ei llaw, a lefodd, gan ddywedyd, Eneth, cyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gafaelodd yntau yn ei llaw, a galwodd gan ddywedyd, “Fy ngeneth, cyfod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u bwriodd hwynt oll allan, ac a'i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n gafael yn llaw'r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, "Fy ngeneth, cod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gydiodd yn ei llaw hi, ac a lefodd, gan ddywedyd, Blentyn, Cyfod.