Luke 8:55 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei h’yspryt a ddaeth drachefyn, a hi a gyuodes yn ebrwydd: ac ef a ’orchmynawdd roi yddi vwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dychwelodd ei hyspryd, a chyfododd hi yn uniawn; a gorchymynodd Efe y rhodder iddi beth i’w fwytta.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith; gorchmynnodd yntau roi iddi beth i’w fwyta.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth bywyd yn ôl i'w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth i'w fwyta iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i hyspryd hi a ddychwelodd, a hi a safodd i fyny yn y man: ac efe a orchymynodd roddi iddi beth i'w fwyta.