Luke 8:56 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno aruthr vu gan i rhieni: ac ef a orchmynawdd yddynt na ddywedent i neb un hyn a wnaethesit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A synnodd ei rhieni; ac Efe a orchymynodd iddynt na ddywedent wrth neb yr hyn a ddigwyddasai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A syfrdanwyd ei rhieni. Gorchmynnodd yntau iddynt na ddywedent wrth neb beth a ddigwyddodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei rhieni wedi eu syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio sn gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i Rhieni hi a ryfeddasant yn ddirfawr: ond efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb yr hyn oedd wedi ei wneuthur.