Luke 8:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ pheth arall a syrthiawdd ar y garec, a’ phan eginawdd, y gwywawdd, am nad oedd iddaw wlybwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi tyfu o hono, gwywodd am nad oedd iddo wlybwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi iddo dyfu gwywodd, am nad oedd iddo leithder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe'n gwywo am fod dim dŵr ganddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac arall a syrthiodd i lawr ar y graig; ac wedi egino, efe a wywodd allan, am nad oedd iddo leithder.