Luke 8:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac arall a syrthiawdd ymysc drain, a’r drain a gytyfawdd, ac ei tagesant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac arall a syrthiodd ynghanol y drain, ac wedi cyd-dyfu o’r drain ynghydag ef, tagasant ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac arall a syrthiodd ymysg y drain, a’r drain wedi cyd-dyfu ag ef a’i fagodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a'r drain a gyd‐dyfasant, ac a'i tagasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu'r planhigion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A pheth arall a syrthiodd i ganol y drain; a'r drain a gyd‐dyfasant âg ef, ac a'i tagasant.