Luke 9:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo y galwodd ef y dauddec discipul y n g h yd, ac a roes yddynt veðiant ac auturtot ar ucha yr oll cythraelieit, ac y iachau heintie.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw y deuddeg ynghyd, rhoddes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi: iddo alw’r deuddeg ynghyd, rhoes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid ac i iacháu clefydon,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd Iesu y Deuddeg ynghyd a rhoddodd iddynt nerth ac awdurdod i fwrw allan gythreuliaid o bob math ac i wella clefydau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo alw ynghyd y Deuddeg, efe a roddodd iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i wella clefydau.