Luke 9:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ad dychwelyd yr Apostolon, y manegesont ddaw veint bethae a wnaethoeddynt. Yno y cymerth ef wynt, ac y tynnawdd o’r neilltu i le diffaith geir ’lavv dinas a elwit Bethsaida.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dychwelyd, yr apostolion a fynegasant Iddo faint o bethau a wnaethent. Ac wedi eu cymmeryd Atto, ciliodd o’r neilldu i ddinas a elwir Bethtsaida.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dychwelodd yr apostolion, ac adrodd iddo y cwbl a wnaethant. A chymerth hwynt a chilio o’r neilltu i ddinas a elwid Bethsaida.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo'r cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymerth hwynt, ac a aeth o'r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i'r ddinas a elwir Bethsaida.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi ei wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau eu hunain, i dref o'r enw Bethsaida.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Apostolion, pan ddychwelasant, a draethasant iddo gymaint âg a wnaethant. Ac efe a'u cymmerodd, ac a ymneillduodd yn ddirgelaidd i Ddinas a elwir Bethsaida.