Luke 9:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ’wybu ’r popul, ys dilynesont ef: ac ef y d erbyniawdd wy, ac a lavarawdd wrthyn am deyrnas Duw, ar ei oedd arnyn eisiae y hiachau, a iachaodd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r torfeydd, gan wybod hyn, a’i canlynasant Ef; ac wedi eu derbyn, llefarodd wrthynt am deyrnas Dduw; ac y rhai ag arnynt eisiau eu hiachau, a iachaodd Efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gwybu’r tyrfaoedd, a’i ddilyn ef. A chroesawodd hwynt, a llefaru wrthynt am deyrnas Dduw, ac iacháu y rhai yr oedd eisiau meddyginiaeth arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a'i ddilyn yno. Dyma Iesu'n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei l. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iachu'r rhai ag angen gwellhad arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y torfeydd a wybuant, ac a'i canlynasant ef; ac efe a'u croesawodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am Deyrnas Dduw, ac efe a iachâodd y rhai oedd eisieu gwellhâd arnynt.