Luke 9:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddechreawdd y dydd ðarvot, y daeth y dauddec, ac y dywed e sont wrthaw, Gellwng ymaith y popul, val yr elont ir trefi a ’r pentrefi o dd amgylch, a’ lletuya, a’ chael bwyt: can ys yma yð ym yn lle diffaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; ac wedi dyfod Atto, y deuddeg a ddywedasant Wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel wedi myned i’r pentrefi oddi amgylch, ac i’r wlad, y llettyont ac y caffont fwyd, canys yma, mewn lle anial yr ydym.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd y dydd ballu; a daeth y deuddeg ato; a dywedyd wrtho, “Gollwng y dyrfa, fel yr elont i’r pentrefydd a’r wlad oddi amgylch i letya a chael lluniaeth, canys yr ydym yma mewn lle anghyfannedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn hwyr yn y p'nawn dyma'r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i'r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae'r lle yma yn anial.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, "Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dydd a ddechreuodd dreulio allan: a'r Deuddeg a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i'r pentrefi, ac i'r lleoedd gwledig oddi amgylch, i letya a chael lluniaeth: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfanedd.