Luke 9:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyuot wrthynt, Ro vv‐ chwi yðynt beth yw vwyta. Ac wy the a ðywed e sōt, Ny d oes genym ni tros pemp torth a’ dau bysc odyn, o ddyeithr i ni vyned a’ phrynu bwyt i’r oll bopul hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Efe wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant, Nid oes genym fwy na phum torth a dau bysgodyn, onid awn ni a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Dywedasant hwythau; “Nid oes gennym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn, heb i ni fynd a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti'n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef wrthynt, "Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt." Meddent hwy, "Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes genym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn: oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.