Luke 9:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ydd oedd ent yn cylch pemp‐mil o g wyr. Yno y dyuot ef wrth ei ðiscipulon, Perwch yddyn eistedd y lavvr, bop dec wyr ad’augain mewn eisteddfa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt led-orwedd yn finteioedd o ynghylch deg a deugain bob un.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr oeddent tua phum mil o wŷr. Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Perwch iddynt eistedd i lawr yn finteioedd, tua hanner cant yr un.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent ynghylch pum mil o wu375?r. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, "Parwch iddynt eistedd yn gwmnoedd o ryw hanner cant yr un."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn gwmpeini, oddeutu deg a deugain yr un.