Luke 9:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymerth ef y pemp torth, a’r ddau pysc odyn, ac a edrychoð y vyny dd ir nef, ac ei bendigawdd, ac ei torawdd, ac ei rhoes ir discipulon y’w gesot rac bron y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu i’r nef bendithiodd hwynt, a thorrodd, a rhoddodd i’w ddisgyblion i osod ger bron y dyrfa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddo gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a bendithiodd hwynt a’u torri a’u rhoddi i’r disgyblion i’w gosod o flaen y dyrfa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerodd y pum torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod gerbron y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r Nef, efe a'u bendithiodd, ac a'u torodd yn ddarnau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.