Luke 9:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno bwyto o hanynt bawp, a’ chael digon: ac e godwyt a’r a weðillesei ganthynt, dauddec bascedeit o vriwvwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwyttasant, a digonwyd hwy oll; a chymmerwyd i fynu yr hyn oedd dros ben iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwytasant, a, diwallwyd hwynt oll; a chodwyd o’r hyn a weddillasid iddynt o friwfwyd ddeuddeg basgedaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a chyfodwyd o'r hyn oedd yn ngweddill iddynt o'r briwsion, ddeuddeg basgedaid.