Luke 9:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ darvu, wrth y vot ef y hun or neulltu yn gweddiaw, yr oedd ei ddiscipulon y gyd ac ef, ac ef a ’ovynnawdd yddynt, can ddywedyt, Pwy ’n með y popul oedd yw vi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu pan yr oedd Efe yn gweddïo o’r neilldu, yr oedd Ei ddisgyblion gydag Ef; a gofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y dywaid y torfeydd Fy mod I?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd, ac yntau yn gweddïo o’r neilltu, fod ei ddisgyblion gydag ef, ac fe ofynnodd iddynt, “Pwy medd y tyrfaoedd ydwyf i?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae'r bobl yn dywedyd fy mod i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae'r bobl yn ei ddweud ydw i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Iesu'n gweddo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, "Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, fel yr oedd efe yn gweddio wrtho ei hun, fod ei Ddysgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y torfeydd yn dywedyd fy mod i?