Luke 9:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wythe atepesont ac a ddywed e sont, Ioan Vatyddiwr: a’ rei a ddyvvait mai Elias: ac ereill a ddyvvait mai vn o’r Prophwyti gynt a godes drachefyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, mai prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebasant hwythau, “Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau gan ateb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o'r rhai gynt a atgyfododd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud fod un o'r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant hwythau, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elias: ac eraill, Prophwyd, rhyw un o'r rhai cyntefig a adgyfododd.