Luke 9:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gā ddywedyt, Can ys dir yw i Vap y dyn ddy oddef llawer oedd a’ei argyweddu y gā yr Henaifi eit, a’ chā yr Archoffeiriait, a’r Gwyr‐llen, a’ ei ladd, a’r trydydd dydd ad gyuody.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Y mae rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar y trydydd dydd adgyfodi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedodd, “Rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd ei gyfodi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Mae'n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd atgyfodi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd wrthyn nhw, “Mae'n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i'n cael fy lladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae'n rhaid i Fab y Dyn," meddai, "ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Y mae yn rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, a'i wrthod o ran yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'i gyfodi y trydydd dydd.