Luke 9:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ddyuot wrth yn oll, A’s ewyllysa nep ðyuot ar v’ol i, ymwadet ehun, a chymeret ei groc beunydd a’ dylynydd vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth bawb, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned Fi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrth bawb, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a dilyned fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrth bawb, "Os myn neb ddod ar fy l i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned fi.