Luke 9:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pw les hat i ddyn, pe’s enillei’r oll vyt, a’ ei golli ehun, neu ddarvot am dano ehun?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pa beth y lleseir dyn wedi ennill y byd oll, ond a chydag ef ei hun wedi myned ar goll neu yn ddirwy?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pa faint gwell yw dyn o ennill yr holl fyd, a’i golli ei hun, neu ei golledu ei hun?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha'i hun, neu fod wedi ei golli?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli eich hunan?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pa leshâd i ddyn, pan wedi enill yr holl fyd, ac wedi colli neu fforffedu ei hun?