Luke 9:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pwy pynac a gywilyddio om pleit i, am gairiae, o bleit hwnw y cywilyddia Map y dyn, pan ddelo yn ei ’ogoniant, ac yn gogoniant y Tat, a’r sainct Angelon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau, O hono ef y bydd gan Fab y Dyn gywilydd Pan ddelo yn Ei ogoniant Ei hun Ac yngogoniant y Tad a’r sanctaidd angylion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof i ac o’m geiriau, bydd ar Fab y dyn gywilydd ohono yntau pan ddêl yn ei ogoniant a gogoniant ei Dad a’r angylion santaidd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tad, a'r angylion sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad a'i angylion sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy bynag y bydd arno gywilydd o honof fi a'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd o hwnw, pan y daw yn ei Ogoniant ei hun, a'i Dâd, a'r Angelion Sanctaidd.