Luke 9:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val yr oedd ef yn gweddiaw, y newidiwyt gwedd y wynep ryd ef, a’ ei wisc oedd yn wen, ac yn ysplen d ydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth weddïo o Hono yr aeth gwedd Ei wyneb yn arall, ac Ei wisg yn wen-felltenaidd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddo weddïo daeth newid ar wedd ei wyneb, ac aeth ei wisg yn wen lachar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wen ddisglair.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd ef yn gweddo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oedd efe yn gweddio, ymddangosiad ei wyneb‐pryd ef a aeth yn wahanol, a'i ddillad ef yn wyn ddysglaeriol.