Luke 9:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthynt, Na chymerwch ddim ich taith, na gvviail ffyn, nac yscrepan, na bara, nac arian, ac na bo ychwy, ddwy bais.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na chymmerwch ddim i’r daith, na ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fyddwch a dwy bais genych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedodd wrthynt, “Na chymerwch ddim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, ac na fydded gennych ddwy grysbais.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i'r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi — dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai wrthynt, "Peidiwch chymryd dim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, na bod dau grys yr un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddygwch ddim ar gyfer y daith, na llaw‐ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fydded genych ddwy o is‐wisgoedd.