Luke 9:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei a ymddangosent yn‐gogoniant, ac a ddywedesont am ei drancedigaeth, yr vn a gyflawnei ef yn‐Caerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai gan ymddangos mewn gogoniant, a lefarent am Ei ymadawiad yr hwn yr oedd Efe ar fedr ei gyflawni yn Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ymddangosasant mewn gogoniant, a sôn am ei ymadawiad ef, a oedd ar fedr ei gyflawni yng Nghaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi'n olygfa anhygoel, ac roedden nhw'n siarad am y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai a ymddangosasant mewn Gogoniant, ac a ddywedasant am ei Ymadawiad, yr hwn yr oedd efe ar ei gyflawnu yn Jerusalem.