Luke 9:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ P h etr a’r ei oeddd y gyd ac ef, oedden drymion gan hunaw, a’ phan ddihunesont, wy welsant y’ ogoniant ef, a’r ddau wr yn sefyll y gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr a’r rhai gydag ef oeddynt wedi eu trymhau gan gwsg; ond wedi dihuno gwelsant Ei ogoniant a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A Phedr a’r rhai gydag, ef oedd yn drwm o gwsg; a phan ddeffroesant, gwelsant ei ogoniant ef a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr, a'r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Pedr a'r lleill wedi bod yn teimlo'n gysglyd iawn, ond dyma nhw'n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a'r ddau ddyn yn sefyll gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gwsg, ond wedi iddynt aros yn hollol effro, hwy a welsant ei Ogoniant ef, a'r ddau wr oedd yn sefyll gyd âg ef.