Luke 9:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ys darvu, a’ hwy yn ymadael ywrthaw, Petr a ddyuot wrth yr Iesu, Y llywiawdur, ys tec yw i ni vod ymā, gwnawn gan hyny dri phepyll, vn i ti, ac vn i Voysen ac vn i Elias, ac ny wyddiat pa beth a ddywedei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, wrth ymddidoli o honynt oddiwrtho Ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, Athraw, ardderchog yw bod o honom yma; a gwnawn dair pabell, un i Ti; ac i Mosheh un; ac un i Elias, heb wybod pa beth a ddywedodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oeddent yn ymadael oddi wrtho, dywedodd Pedr wrth yr Iesu, “Meistr, da yw ein bod ni yma, a gwnawn dair pabell — un i ti, ac un i Foses, ac un i Elïas,” heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches — un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad go iawn beth roedd yn ei ddweud!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth i'r rheini ymadael Iesu, dywedodd Pedr wrtho, "Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias." Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, fel yr oeddynt yn ymadael oddi wrtho ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, O Feistr, Da yw i ni fod yma; a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod pa beth y mae yn ei ddywedyd.