Luke 9:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy darvot y llef hono, y cahad yr Iesu yn vnic: ac wy ny d ynganesont, ac ny vanegesont i neb un yn dyddieu hyny ddim o’r pethae a’ welsynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi bod y llais, cafwyd yr Iesu ar Ei ben Ei hun. A hwy a dawsant, ac wrth neb ni fynegasant, yn y dyddiau hyny, ddim o’r pethau a welsant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi’r llef, cafwyd Iesu yn unig. A thewi a wnaethant hwy; ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i'r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma'r lleill yn cadw'n dawel am y peth — ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi ei weld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddarfyddodd y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwynt‐hwy a fuant ddystaw, ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hyny ddim o'r pethau yr oeddynt wedi eu gweled.