Luke 9:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, ’wr o’r dyrfa a ddo lefawdd, gan ddywedyt, Athro, adolwyn yty, edrych ar vy map: can ys vy vn‐map y gyd ydyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, gŵr, o’r dyrfa, a ddolefodd gan ddywedyd, Athraw, attolygaf i Ti edrych ar fy mab, canys unig-anedig yw i mi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma ŵr o’r dyrfa yn llefain, gan ddywedyd, “Athro, yr wyf yn erfyn arnat edrych ar fy mab, canys unig blentyn yw i mi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, gŵr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i'n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i — dyma fy unig blentyn i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, "Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, gwr o'r dyrfa a waeddodd, gan ddywedyd, Athraw, yr wyf yn deisyf arnat, edrych ar fy mab: canys efe yw fy unig‐anedig.