Luke 9:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, yspryt y cymer ef, ac yn ddysumwth y llefa, ac ef ei rhwyg, y ny valo‐ewyn a’ braidd yr ymedy ac ef gwedy iddaw ei sigo,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wele, yspryd a’i cymmer ef, ac yn ddisymmwth y gwaedda: a dryllio ef y mae ynghyda bwrw ewyn; a braidd y cilia oddiwrtho ar ol ei ysigo ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wele y mae ysbryd yn ei gymryd, a dolefa yntau yn sydyn; a dirdynna ef, ac yntau’n malu ewyn; a phrin gan ei lethu yr ymedy oddi wrtho.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae'n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae yna ysbryd yn gafael ynddo'n aml, ac yn sydyn mae'n sgrechian; wedyn mae'r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy'r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae'n ei ddinistrio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yn ddisymwth y mae efe yn gwaeddi, ac yn ei ddirdynu, hyd oni falo ewyn, a braidd y mae yn ymadael oddi wrtho, gan ei lethu yn flin.