Luke 9:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr atepawdd yr Iesu, ac y dyuot, A genedleth amffyddlawn a’ throvaus, pa hyd bellach y byddaf y gyd a chwi, ac ich dyoðefaf? Dwc yma n dy vap.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddi-ffydd a throfaus, hyd ba bryd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? Tyred yma â’th fab.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac y’ch goddefaf? Dwg yma dy fab.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y'ch goddefaf? dwg dy fab yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi a'ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac yn eich goddef? Tyrd 'th fab yma."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O Genedlaeth anffyddiog a throfäus, hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi, ac y byddaf ymarhöus wrthych? Dwg yma dy fab.