Luke 9:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thra ytoeð ef yn dyuot, y rhwygawð y cythraul ef, ac y drylliawdd: a’r Iesu a gerydawdd yr yspryt aflan, ac a iachaoð y bachcen, ac y rhoes ef at ei dat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe etto yn dyfod, rhwygodd y cythraul ef, ac y’i drylliodd. A dwrdiodd yr Iesu yr yspryd aflan; ac iachaodd y bachgen, a rhoddes ef i’w dad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd eto yn dyfod, hyrddiodd y cythraul ef i lawr, a’i ddirdynnu. Ceryddodd yr Iesu yr ysbryd aflan, ac iachaodd y bachgen, a’i roi’n ôl i’w dad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd: a'r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i'r bachgen ddod ato dyma'r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu'n ceryddu'r ysbryd drwg, iacháu'r bachgen a'i roi yn ôl i'w dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddo ddod ymlaen bwriodd y cythraul ef ar lawr a'i gynhyrfu; ond ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan, ac iachu'r plentyn a'i roi yn l i'w dad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i taflodd i lawr, ac a'i dirdynodd yn flin. Ond yr Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachâodd y plentyn, ac a'i rhoddodd ef yn ol i'w dâd.