Luke 9:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ brawychy a wnaethant oll gan vawredic veðiant Duw: ac a ’n wy oll yn ryveddu am yr oll pethe a wnethesei ’r Iesu, y dyuot wrth ei ddiscipulon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu aruthr gan bawb o herwydd mawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaeth Efe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A synnai pawb at fawredd Duw. A phawb yn rhyfeddu at yr holl bethau a wnâi, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai'r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb wedi eu syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith. Tra roedd pawb wrthi'n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu'n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd pawb yn rhyfeddu at fawredd Duw. A thra oedd pawb yn synnu at ei holl weithredoedd, meddai ef wrth ei ddisgyblion,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A tharawyd hwynt oll â syndod gan Fawrhydi Duw. Ac fel yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,