Luke 9:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ny ddeallesont wy ’m ’or gair hwn vv: can ys cuddietic oedd racddynt, val na synniēt ddim hano: ac ofnent ymofyn ac ef y peth hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy ni wybuant yr ymadrodd hwn, ac yn orchuddiedig oedd oddi wrthynt, fel na ddeallent ef; ac ofnasant ofyn Iddo am yr ymadrodd hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oeddent hwythau’n deall yr ymadrodd hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt fel na allasent ei amgyffred, ac ofnent ei holi am yr ymadrodd hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw'n methu'n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglu375?n 'r ymadrodd hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr hwy oeddynt anwybodus o'r peth hwn, ac yr oedd wedi cael ei guddio oddi wrthynt, fel na chanfyddent ef: a hwy a ofnasant ofyn iddo am y peth hwn.