Luke 9:49 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac atepodd Ioan, ac a ddyuot, Y llywiawdur, ni welsam vn yn bwrw allan gythraelieit yn dy Enw d i, ac ei goharddesam, can nad yw ith ddilyn y gyd a ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, Ioan a ddywedodd, O Feistr, gwelsom ryw un oedd yn Dy enw Di yn bwrw allan gythreuliaid, a rhwystrasom ef, gan nad yw yn canlyn gyda ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw cythreuliaid allan yn dy enw di, a cheisiasom wahardd iddo am nad yw yn canlyn gyda ni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Ioan, "Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, Ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.