Luke 9:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, gwedy cyflawny y dyddiae val y cymerit ef y vyny dd, ef a ddir gyfeiriodd ei wynep i vyn’d i Gaerusalem,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu wrth gyflawni dyddiau Ei gymmeryd i fynu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan fod dyddiau ei ddyrchafael yn dirwyn i ben, gosododd ei fryd ar fyned i Gaersalem, ac anfonodd genhadau o’i flaen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i'r nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, pan yr oedd dyddiau ei Esgyniad yn cael eu cyflawnu, efe a gyfeiriodd ei wyneb yn ddiymod i fyned i Jerusalem.