Luke 9:54 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd ei ddiscipulon Ioan ac Iaco hyny, y dywetsont, Arglwydd a ewyllysy di ’orchymyn o hanam ar ddescen d tan o’r nef, a’ ei difa hwy, me g is y gwnaeth Elias?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled hyn, Ei ddisgyblion Iago ac Ioan a ddywedasant, Arglwydd, a ewyllysi Di ddywedyd o honom am i dân ddyfod i lawr o’r nef a’u difa hwynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan welodd y disgyblion, Iago ac Ioan, dywedasant, “Arglwydd, a gawn ni ddywedyd am i dân ddisgyn o’r nef a’u difa hwynt?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o'r nefoedd i'w dinistrio nhw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd ei ddis-gyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, "Arglwydd, a fynni di inni alw tn i lawr o'r nef a'u dinistrio?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i Ddysgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, A ewyllysi di ddywedyd o honom am i dân ddisgyn o'r Nef, a'u difa hwynt?