Luke 9:57 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu a’ hwy yn myned rhyd y ffordd, y dyuot neb un wrthaw, Mi ath ddilynaf, Arglwyð, i b’le bynac ydd elych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned o honynt, ar y ffordd y dywedodd rhywun Wrtho, Canlynaf Di i ba le bynnag yr elych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hwy’n myned, ar y ffordd dywedodd rhywun wrtho: “Mi’th ddilynaf, pa le bynnag yr elych.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, "Canlynaf di lle bynnag yr ei."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddynt yn rhodio yn y ffordd, rhyw un a ddywedodd wrtho, Mi a'th ganlynaf di i ba le bynag yr elych.