Luke 9:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy aethant allan, gan vyned trwy bop tref ac Euangelu, ac iachau ym‐pop lle.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan fyned allan yr aethant trwy’r pentrefi, gan efengylu ac iachau ym mhob lle.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant ymaith, a mynd drwy’r pentrefydd gan gyhoeddi’r newyddion da ac iacháu ym mhob man.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy'r trefi, gan bregethu'r efengyl, a iacháu ym mhob lle.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i'r llall gan gyhoeddi'r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant allan a theithio o bentref i bentref, gan gyhoeddi'r newydd da ac iachu ym mhob man.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a aethant allan, ac a aethant drwy y pentrefi, gan efengylu a gwellhâu yn mhob lle.