Luke 9:62 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wrtha y dyuot yr Iesu, Nid oes neb un a’r a ddyd ei law ar yr aratr, ac a edrycho ar bethe y tu cef y n yn gyf addas i deyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Nid oes neb wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych yn ei ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yr Iesu wrtho, “Nid oes neb sy’n rhoi ei law ar aradr ac yn edrych yn wysg ei gefn yn gymwys i deyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Dydy'r sawl sy'n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu'r Duw sy'n teyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Iesu wrtho, "Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn l, yn addas i deyrnas Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoddi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i Deyrnas Dduw.